Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Gorffennaf 2020
Amser:
13.30 -
17.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6408
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Helen Mary Jones AS (Cadeirydd dros dro) Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Justin Albert, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol David Anderson, Amgueddfa Cymru Pedr ap Llwyd, National Library of Wales Andrew White, Cronfa Treftadaeth y Loteri Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Martha Da Gama Howells (Ail Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth ar effaith argyfwng COVID-19 ar y sector treftadaeth, amgueddfeydd ac archifau
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau ynghylch effaith COVID-19 i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
3 Papur(au) i’w nodi
3.1 Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyfryngau lleol
Nododd yr Aelodau y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
5 Ôl-drafodaeth breifat
Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad byr ar effaith COVID-19 ar dreftadaeth, amgueddfeydd ac archifau.
6 Ymchwiliad i effaith COVID-19 ar y celfyddydau creadigol: trafod adroddiad drafft
Cytunodd yr Aelodau i ddiweddaru'r adroddiad drafft i adlewyrchu'r cyhoeddiad diweddar am gyllid ychwanegol ar gyfer y sector.